Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (215)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
Cynigion i ethol aelodau i bwyllgorau NDM5566 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM5567 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths (Llafur).
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon: Adnewyddu’r Polisi Newid yn yr Hinsawdd - Gohiriwyd |
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Dysgu o Adolygiadau Nodiadau Achos Marwoldeb (45 munud)
Dogfen
Ategol
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Camau gan y Sector Tai i Fynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Cham-drin Domestig (30 munud)
Dogfen Ategol Adolygiad Polisi ac Arferion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru (Saesneg yn unig)
|
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Bathodyn Glas – y wybodaeth ddiweddaraf (30 munud)
|
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Y Chweched Fforwm Cydlyniant (30 munud)
Dogfen Ategol Chweched Adroddiad Cydlyniant ar Gydlyniant Economaidd, Cymdeithasol a Thiriogaethol (Saesneg yn unig)
|
8 Rheoliadau (Gweithdrefnau a Ffioedd) Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 (15 munud)
NDM5561 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2014.
Dogfennau Ategol Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
|
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Dadreoleiddio: Diwygiadau mewn perthynas â Phedolwyr a Chytundebau Cartref-Ysgol (15 munud) NDM5525 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n ymwneud â Phedolwyr a Chytundebau cartref-ysgol i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil
Dadreoleiddio yma:
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) Adroddiad Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 17 Medi 2014